Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth
Apply before 13/04/2026
Reference Number JN -022026-991916
Contract Type Perm
Category Chief Executive
Location
Carmarthen
About the role
Prif Swyddog Tân Cynorthwyol, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
Lleoliad – Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin
Cyflog – £121,640 - £129,310
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am arweinydd strategol eithriadol i ymuno â’n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol fel Prif Swyddog Tân Cynorthwyol.
Mae hon yn rôl ganolog o fewn un o Wasanaethau Tân ac Achub mwyaf a mwyaf amrywiol y DU yn ôl daearyddiaeth. Mae’n gwasanaethu mwy na 900,000 o bobl ar draws canolfannau trefol, cymunedau gwledig, perygl diwydiannol mawr ac arfordir helaeth, ac mae graddfa a chymhlethdod ein hamgylchedd gweithredu yn mynnu arweinyddiaeth o’r safon uchaf.
Rydym yn falch o’n rhagoriaeth weithredol. Rydym yr un mor uchelgeisiol ynghylch ein dyfodol.
Mae’r Gwasanaeth yn mynd trwy gyfnod o drawsnewid strategol- cryfhau gwydnwch ariannol, ymgorffori arweinyddiaeth gynhwysol, moderneiddio darpariaeth gwasanaethau a dyfnhau cydweithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Bydd y Prif Swyddog Tân Cynorthwyol yn chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni’r agenda honno.
Rydym yn chwilio am arweinydd strategol profedig sy’n:
· Rheolwr Brigâd neu’n Rheolwr Ardal Cymwys presennol.
· Meddu ar gymhwyster Rheoli Digwyddiadau Aur Aml-Asiantaeth (Lefel 4 ICL neu gyfwerth).
· Medi ar brofiad amlwg o arwain swyddogaethau cymhleth ar raddfa fawr.
· Gallu gweithredu’n hyderus o fewn amgylchedd sy’n atebol yn wleidyddol.
· Meithrin perthnasoedd adeiladol â chyrff cynrychioliadol a rhanddeiliaid.
· Arwain newid diwylliannol gyda hygrededd, gwelededd ac uniondeb.
Byddwch yn gyfrifol am yrru perfformiad ar draws eich cyfarwyddiaeth, gan gyfrannu at strategaeth sefydliadol a chyflenwi’n weithredol fel Prif Swyddog ar gyfer y gwasanaeth.
Mae’r rôl hon yn galw am farn gadarn, hygrededd gweithredol a’r gallu i ddylanwadu ar y lefelau uchaf. Mae hefyd yn cynnig cyfle prin - i lunio cyfeiriad gwasanaeth sy’n uchelgeisiol, yn canolbwyntio ar y gymuned ac yn falch o’i bobl.
Mae canolbarth a gorllewin Cymru yn cynnig ansawdd bywyd eithriadol, gan gyfuno her broffesiynol â mynediad at rai o’r tirweddau harddaf yn y Deyrnas Unedig.
Os ydych chi’n gryf eich cymhelliad dros wasanaeth cyhoeddus, yn barod i arwain trwy gymhlethdod ac wedi ymrwymo i fodelu Atebolrwydd, Uniondeb, Parch, Didueddrwydd a Moeseg, byddem yn croesawu eich cais.
I gael gwybod mwy a sut i wneud cais ewch i Penna | Jobs neu am drafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon, cysylltwch â Fizza Islam ar Fizza.Islam@LHH.com neu 0141 220 6460.
Mid and West Recruitment 2026_720HD.mp4
Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ddydd Sul 12 Ebrill 2026.
How to Apply
- Upload your CV under “Please select one of the options below.”
- Complete the short mandatory fields on the next page.
- Use ‘Add Attachments’ to upload your Supporting Statement and any other documents.
- Please ensure that the file name of your CV and supporting statement includes your full name.
- Ensure both CV and Supporting Statement are uploaded before submitting your application.
- If you have a long term health condition or disability and would like your application to be considered in accordance with a Disability Confident Scheme, please email: execapplications@penna.com to inform the Penna team.