skip to main content
Penna

Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth - Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant

Apply before 18/05/2026

Reference Number JN -042026-1018864

Contract Type Perm

Category HR & OD

Location

Carmarthen

About the role

Cyfarwyddwr Pobl a Diwylliant, Gwasanaeth Tân ac Achub, Canolbarth a Gorllewin Cymru

Lleoliad – Pencadlys y Gwasanaeth, Caerfyrddin/Hybrid

Cyflog – £115,894 - £122,261 y flwyddyn

Mae hwn yn gyfle gweithredol prin ag effaith sylweddol i lunio dyfodol un o wasanaethau cyhoeddus pwysicaf Cymru.

Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Pobl a Diwylliant rhagorol i arwain trawsnewidiad sylfaenol o’i swyddogaeth pobl, cryfhau gallu sefydliadol a helpu i adeiladu diwylliant modern, cynhwysol sy’n uchel ei berfformiad.

Nid rôl Cyfarwyddwr AD draddodiadol yw hon. Fel aelod allweddol o’r Tîm Arweinyddiaeth Weithredol, byddwch yn chwarae rhan ganolog wrth lunio cyfeiriad y Gwasanaeth. Byddwch yn alinio’r swyddogaeth Pobl a Diwylliant â blaenoriaethau strategol y sefydliad, gan sicrhau ei bod yn dod yn wir sbardun perfformiad, diwylliant a rhagoriaeth weithredol - nid dim ond gwasanaeth cymorth.

Byddwch yn arwain datblygiad diwylliannol ac arweinyddiaeth ar draws y sefydliad, yn ymgorffori safonau clir o berfformiad ac ymddygiad ac yn adeiladu Cyfarwyddiaeth Pobl a Diwylliant gydlynol, broffesiynol sy’n gallu cynnal cynnydd hirdymor.

Yn hollbwysig, byddwch hefyd yn cyflawni effaith gynnar - sefydlogi heriau’r gweithlu, cryfhau cysylltiadau diwydiannol a meithrin hyder mewn arweinyddiaeth a’r swyddogaeth pobl ehangach.

Rydym yn chwilio am uwch arweinydd pobl sydd â:

• Hanes cryf mewn amgylcheddau cymhleth, undebol neu weithredol.

• Profiad o arwain datblygiad sefydliadol a thrawsnewid diwylliannol.

• Yr hygrededd a’r hyder i weithredu a herio ar lefel Weithredol.

• Y deallusrwydd emosiynol i arwain gydag empathi wrth gyflawni newid.

• Y gallu i feithrin gallu arweinyddiaeth a datblygu timau â photensial uchel.

Efallai y byddwch yn dod o fewn neu y tu hwnt i’r sector cyhoeddus, ond byddwch yn dod â pherthynas glir â gwerthoedd gwasanaeth cyhoeddus, ymrwymiad i Gymru a gwerthfawrogiad o gyfrifoldebau gwasanaeth brys.

Mae hon yn rôl ganolog ar adeg ddiffiniol i’r Gwasanaeth. Os ydych yn gryf eich cymhelliad dros y cyfle i arwain newid ystyrlon, dylanwadu ar y lefel uchaf a chael effaith barhaol ar gymunedau ledled Cymru, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

I gael gwybod mwy ac ymgeisio, ewch Penna | Jobs neu am drafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon cysylltwch neu i gael trafodaeth anffurfiol am y rôl gyffrous hon, cysylltwch â

Fizza.Islam@LHH.com neu ar 0141 220 6460.

Rhaid cyflwyno ceisiadau erbyn hanner nos ddydd Sul 17 Mai, 2026.

Lawrlwythwch becyn gwybodaeth i ymgeiswyr yma

How to Apply

  1. Upload your CV under “Please select one of the options below.”
  2. Complete the short mandatory fields on the next page.
  3. Use ‘Add Attachments’ to upload your Supporting Statement and any other documents.
  4. Please ensure that the file name of your CV and supporting statement includes your full name.
  5. Ensure both CV and Supporting Statement are uploaded before submitting your application.
  6. If you have a long-term health condition or disability and would like your application to be considered in accordance with a Disability Confident Scheme, please email: execapplications@penna.com, to inform the Penna team.
Apply